Y CLWB | THE CLUB:

(Saesneg isod / English below)

Sefydlwyd y clwb ym 1977, ar adeg pan oedd camp rygbi yng Nghymru ar ei hanterth ac yn un o’i chyfnodau aur. Roedd chwaraewyr fel Gareth Edwards, Barry John, JPR Williams, Phil Bennett, Gerald Davies a Mervyn Davies yn dominyddu Hemisffer y Gogledd gyda steil o chwarae a ysgogodd ddiddordeb yn y gamp ar draws y byd.

Gellir rhannu datblygiad y Clwb ers 1977 yn fras mewn dwy ran:

A. AR Y MAES

Chwaraewyd gêm gyntaf erioed y Clwb ar 9 Ebrill 1977 ar gaeau Ysgol Uwchradd Dinbych ar safle Ffordd Rhuthun yn erbyn ail dîm Glannau Dyfrdwy. Enillwyd y gêm o 10 pwynt i 8. Sgoriwyd y pwyntiau cyntaf yn hanes y Clwb gan y capten a’r hyfforddwr cyntaf erioed, Eric Howells (cic gosb), a hefyd gan John Myddleton Williams (cais).

Ar 26 Rhagfyr 1977 cynhaliwyd y cyntaf o’r gemau darbi blynyddol a ddaeth yn chwedlonol yn erbyn Clwb Rygbi Ysbyty Gogledd Cymru, clwb a sefydlwyd yn 1971. Denodd gemau Gŵyl San Steffan hyn dyrfaoedd enfawr ac roeddynt yn hynod gystadleuol. Daeth y gêm gyntaf ar Ŵyl San Steffan i ben gyda buddugoliaeth o 7-6 i Ddinbych.

O’r dechreuadau gostyngedig hynny, mae’r Clwb wedi gwneud cynnydd aruthrol dros yr hanner canrif neu fwy diwethaf. Yn y dyddiau cynnar, roedd y Clwb yn rhedeg un tîm yn unig; roedd y garfan yn hyfforddi yn ystod y gaeaf yng ngolau blaen ceir y chwaraewyr ac yn chwarae eu gemau ar gaeau Ysgol Uwchradd Dinbych. Tafarn y Railway Inn ym mhen isaf y dref oedd y ”Tŷ Clwb”. I ddechrau, roedd yr holl gemau yn rhai cyfeillgar heblaw am ambell gêm gwpan.

Yn 1979, symudodd y Clwb i chwarae ei gemau ar ei safle presennol, a elwid bryd hynny yn Gaeau’r Graig. Roedd y tir yn eiddo i’r Sir ac wedi bod yn gaeau chwarae’r hen Ysgol Ramadeg ac wedyn yr Ysgol Uwchradd. Dros y blynyddoedd nesaf, ymgymerodd y Clwb â gwaith helaeth i adeiladu ei Glwbdŷ ei hun. Dathlwyd agoriad swyddogol y tŷ clwb gyda gêm yn erbyn Llynges Frenhinol yr Alban ym mis Medi 1983.

I glwb mor ifanc, gwelwyd cynnydd sylweddol iawn yn ystod dechrau a chanol yr 1980au. Yn nhymor 1983-84, enillodd Dinbych ei dlws cyntaf erioed drwy gipio Tarian Dosbarthiadau Gogledd Cymru ar ôl curo Pwllheli yn y rownd derfynol. Cafwyd llwyddiant hefyd wrth ennill twrnamaint gwahoddiadol Yr Wyddgrug. Yn ogystal, un o uchafbwyntiau diamheuol y tymor oedd sefydlu pedwerydd tîm (4ydd XV).

Roedd diwedd yr 1980au a dechrau’r 1990au yn gyfnodau arwyddocaol i’r Clwb wrth iddo symud o statws Iau i statws Uwch o fewn Undeb Rygbi Cymru, ymuno â Chynghrair Clwyd ac yna Chynghrair Gogledd Cymru. Cynhaliwyd hefyd ddau daith fawr, un i Mecsico Newydd a’r llall i Florida a’r Bahamas.

Ar 14 Medi 1991, ailenwyd tiroedd y Clwb yn Gaeau Les Phillips er anrhydedd i Lywydd cyntaf erioed y Clwb, codwr arian eithriadol. I ddathlu’r achlysur trefnwyd gêm yn erbyn y Welsh Classicals, tîm oedd yn cynnwys pedwar Llew Prydeinig a phum chwaraewr rhyngwladol Cymreig, gan gynnwys Graham Price ac Allan Martin.

Yn 1993, unwyd y Clwb â Chlwb Rygbi Ysbyty Gogledd Cymru ar adeg pan oedd Cynghreiriau Cenedlaethol yn cael eu cyflwyno. Roedd y teithio i Dde Cymru bob yn ail benwythnos yn faich sylweddol ar y Clwb, ond drwy ymrwymiad craidd y chwaraewyr ac aelodau’r pwyllgor, llwyddodd y Clwb i oroesi’r cyfnod heriol hwnnw. Yn 1998, diddymwyd y Cynghreiriau Cenedlaethol a dychwelodd y Clwb i gynghreiriau Gogledd Cymru, gan fwynhau cyfnod cymharol lwyddiannus dros y 25 mlynedd dilynol.

Agorwyd estyniad y tŷ clwb yn swyddogol ym mis Awst 2004 gyda gêm yn erbyn Clwb Rygbi Abertawe, a oedd yn enwog yn fyd-eang ar y pryd. Yn ystod y 2000au, dyrchafwyd y Clwb am y tro cyntaf i’r adran uchaf yng Ngogledd Cymru yn dilyn tymor eithriadol yn 2003-04 pan oedd y tîm cyntaf yn sgorio cyfartaledd o 46.5 pwynt a 7.4 cais y gêm, sef y gorau o unrhyw glwb yng Nghymru. Arhosodd y tîm cyntaf yn yr adran uchaf am y chwe thymor nesaf hyd at 2010 cyn dechrau cyfnod o symud yn aml rhwng y ddwy adran uchaf.

Yng Nghwpan Cymru yn 2006, croesawodd y tîm cyntaf Gaerffili, a oedd ddwy flynedd ynghynt wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Ewropeaidd. Yn 2009, chwaraeodd y Clwb yn rownd derfynol Cwpan Uwch Gogledd Cymru am y tro cyntaf, ac hyd yma yr unig dro, tra enillodd yr ail dîm Gynghrair Gogledd-ddwyrain Cymru.

Ymhlith llwyddiannau’r 2010au roedd ennill y “dwbl” cyntaf erioed yn hanes y Clwb, pan ddaeth y tîm cyntaf yn bencampwyr yr ail adran a hefyd ennill Cwpan Canolradd Gogledd Cymru. Yn 2017, enillodd y tîm cyntaf y Cwpan Canolradd unwaith eto mewn ffasiwn ddramatig, gan ddod yn ôl o fod ar ei hôl hi 24-6 ar hanner amser i ennill 28-27.

Drwy gydol ein hanes, mae datblygu chwaraewyr ifanc wedi bod yn rhan annatod o fframwaith chwarae’r Clwb. Mae’r tîm Ieuenctid wedi bod yn rhan gyson o strwythur chwarae’r Clwb, ynghyd â’r Adran Mini a’r Ieuenctid. O safbwynt chwarae, stori lwyddiant canol y 2020au fu’r Adran Mini ac Ieuenctid yn ddiamau, gyda 338 o chwaraewyr cofrestredig yn 2025-26. Yn 2026-27, am y tro cyntaf yn hanes y Clwb, bydd gennym o leiaf un tîm ym mhob grŵp oedran o dan 7 oed hyd at dan 16 oed.

B. ODDI AR Y MAES

Ymhlith y datblygiadau mawr oddi ar y maes yng Nghlwb Rygbi Dinbych mae’r canlynol:

  • 1977 (Chwefror): Cyfarfod i ystyried sefydlu clwb rygbi yn Ninbych.
  • 1982: Adeiladu’r tŷ clwb gwreiddiol.
  • 1991: Prynu tiroedd y Clwb.
  • 2003: Ehangu’r tŷ clwb i’w faint presennol.
  • 2007: Ailosod wyneb y maes parcio.
  • 2010: Adeiladu’r stondin a’r llwybr mynediad.
  • 2013: Gosod paneli solar ar y to, y clwb rygbi cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.
  • 2016: Gosod llochesi ochr y cae.
  • 2022: Uwchraddio cae hyfforddi’r Clwb.
  • 2023: Adeiladu’r wal gerrig sych wrth fynedfa’r Clwb, ynghyd â’r gatiau newydd.
  • 2023: Adeiladu’r gampfa ffitrwydd.
  • 2025: Gosod rhagor o baneli solar.
  • 2026: Sefydlu gardd o fewn tiroedd y Clwb lle tyfir amrywiaeth o lysiau.
  • 2026: Y Clwb yn cael ei gorffori.

Rhan annatod o athroniaeth y Clwb fu’r arwyddair “Calon y Gymuned”. Rydym bob amser wedi ceisio bod yn fwy na lle i chwarae rygbi yn unig; rydym yn ymdrechu’n gyson i chwarae rhan weithredol yn y gymuned leol. Yn hanesyddol, mae’r Clwb wedi cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a chyfarfodydd.

I ddechrau, roedd llawer o’r digwyddiadau hyn yn weithgareddau codi arian mawr i’r Clwb. Roedd y rhain yn cynnwys trefnu a rheoli cyfres gyfan o ddigwyddiadau megis Carnifal Dinbych, Hanner Marathon Dinbych, rhediadau elusennol, rasys, treialon cŵn defaid, marchnadoedd Caledonaidd, siop elusen dros dro am wythnos, nosweithiau tân gwyllt a choelcerthi, a rhedeg y bar yn Sioe Flodau Dinbych, ac mae’r rhestr yn mynd ymlaen.

Yn fwy diweddar, mae’r Clwb wedi parhau i fod yn weithgar oddi ar y maes gyda digwyddiadau megis Brecwastau Busnes, derbyn archebion rheolaidd gan sefydliadau lleol, cyngherddau, partïon, diwrnod cyn-chwaraewyr, nosweithiau gwirfoddolwyr, diwrnodau teulu, diwrnodau aelodau a diwrnodau dysgwyr Cymraeg. Rydym hefyd wedi chwarae rhan amlwg mewn digwyddiadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, Sioe Dinbych, Carnifal Dinbych, Gŵyl Gwrw Dinbych, Sioe Dinbych a Fflint, Sioe Flodau Dinbych a Gŵyl Ganol Haf Dinbych. Ar nifer o ddiwrnodau gemau, trefnwyd crèches ac ardaloedd chwarae meddal i leihau’r pwysau ar rieni a chwaraewyr.

Yn ogystal â llu o bartïon pen-blwydd, pen-blwyddi priodas, te angladdau a dathliadau eraill, mae’r Clwb hefyd wedi bod yn lleoliad priodasau. Yn ystod dyddiau tywyll pandemig Covid, defnyddiwyd y tŷ clwb fel Canolfan Asesu Covid.

Cafodd cyfraniad y Clwb at y gymuned ei gydnabod yn ddiweddar drwy wahoddiad ac ymddangosiad ar blatfform ffrydio rhaglen Pride of Britain 2026.

O safbwynt gweinyddol a rheoli, mae’r Clwb wedi cael ei gydnabod mewn sawl ffordd yn ddiweddar, gan gynnwys:

  • Derbyn Gradd 5 (y sgôr uchaf bosibl) yn yr asesiad Iechyd a Hylendid Bwyd.
  • Derbyn asesiad hynod gadarnhaol ar addasrwydd ein cyfleusterau ar gyfer unigolion ag anableddau.
  • Ennill Gwobr Blatinwm Undeb Rygbi Cymru (y wobr uchaf bosibl) am ein rheolaeth a’n llywodraethu oddi ar y maes.

O fod yn rhedeg un tîm yn unig yn y dyddiau cynnar, mae’r Clwb bellach yn cynnal dros 15 o dimau ar draws gwahanol grwpiau oedran ac wedi chwarae yn erbyn timau a gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan Ewropeaidd. Mae’r Clwb yn berchen ar ei gaeau ei hun, maes parcio rhagorol, tŷ clwb a champfa ffitrwydd, ac yn chwarae ei gemau ar gaeau wedi’u paratoi’n arbennig o dda ac o dan oleuadau llif o’r safon uchaf, cyfleusterau y byddai unrhyw glwb yng Ngogledd Cymru yn falch ohonynt.

Ymlaen Clwb Rygbi Dinbych! 🏉


The Club was formed in 1977 at a time when the sport of rugby in Wales was at a peak and in one of its golden eras, with the likes of Gareth Edwards, Barry John, JPR Williams, Phil Bennett, Gerald Davies and Mervyn Davies dominating Northern Hemisphere rugby with a brand of play which ignited interest in the sport across the world.

The Club’s development since 1977 can be broadly divided into two sections- A. On the Field B. Off the Field

  1. ON THE FIELD

The Club’s first ever game was on 9th April 1977 and was played on Denbigh High School fields at the Ruthin Road site against Deeside 2nds, a game won by 10 points to 8. The first points in the history of the Club were scored by the first ever captain and coach, Eric Howells (penalty) and also John Myddleton Williams (try).

26th December 1977 saw the first of what became legendary annual derby fixtures against the North Wales Hospital RFC, a Club which had been formed in 1971. These Boxing Day matches attracted ‘huge’ crowds and were ‘highly competitive’. The first Boxing Day match resulted in a 7-6 win to Dinbych.

From those humble beginnings, the Club has made enormous progress in the following half century or so. During the early days, the Club ran one team; the squad trained during the winter under the flash lights of the players cars and played their matches on the Denbigh High school fields. The ‘Clubhouse’ was the Railway Inn at the bottom end of town. Initially, fixtures were all ‘friendlies’ apart from the occasional Cup match.

In 1979, the Club moved to playing their matches at our current location, then known as the Graig Fields; the land had been the property of the County and were the playing fields of the former Grammar School and then the High School. Over the next few years, the Club undertook extensive work to build their own Clubhouse. The official opening of the clubhouse was celebrated with a fixture against the Royal Navy Scotland in September 1983.

For such a young Club, the early to mid eighties saw the Club making huge strides. In 1983-84, Dinbych won their first ever trophies being victorious in the North Wales Districts Shield beating Pwllheli in the final; the Club also achieved success in winning the Mold Invitation tournament. In addition, an undoubted highlight of this season was the establishment of a 4th XV.

The late 80s and early 90s were significant times for Club as we progressed from Junior to Senior status within the WRU, entered the Clwyd League and then the North Wales League. We also undertook two major tours – one to New Mexico and the other to Florida and the Bahamas. On 14th September, 1991, the Club’s grounds were renamed Caeau Les Phillips, in honour of the Club’s first ever President, a fund raiser extraordinaire. To celebrate this event, a fixture was arranged against the Welsh Classicals, a team which included four British Lions and five Welsh International, including Graham Price and Allan Martin. In 1993, the Club amalgamated with the North Wales Hospital RFC at a time when National Leagues were being introduced. The travelling involved every other weekend down to South Wales was a heavy burden for the Club but through the commitment of a small nucleus of players and committee members, the Club survived this most demanding of times. In 1998, the National Leagues were abolished and the Club returned to the North Wales leagues and relative success over the next 25 years.

The Clubhouse extension was officially opened in August 2004 with a game versus the then world famous Swansea RFC. The 2000s saw the Club promoted, for the first time, to the highest division in North Wales following an outstanding season in 2003-4 when the 1st XV averaged 46.5 points and 7.4 tries per game, the highest of any club in Wales.  The 1st XV remained in the top division for the next six seasons until 2010 before beginning an inconsistent period of moving frequently between the top two divisions.

In the Welsh Cup in 2006, the 1st XV hosted Caerphilly who two years previously had been finalists in an European Cup Final. In 2009, the Club played for the first, and to date the only time, in the Senior North Wales Cup final whilst the 2nds won the North East Wales League.

Successes in the 2010s included the first ever double for the Club where the 1st XV were 2nd division champions and also won the North Wales Intermediate cup. 2017 again saw the 1sts win the Intermediate Cup, this time in dramatic fashion recovering from being 24-6 down at half time to win 28-27!

Throughout our existence, the development of young players has been integral to the Club’s playing framework. The Youth team has been a regular component within the playing structure of the Club, as has the Mini Junior Section. From a playing perspective the success story of the mid 2020s has, undoubtedly, been the Mini Junior Section, who had, in 2025-26, 338 registered players. In 2026-27, for the first time in the Club’s history, we will have at least one team in each age group from under 7s to under 16s.

  • OFF THE FIELD

Major off the field developments within Clwb Rygbi Dinbych include the following:

1977 (February) Meeting to consider establishing a rugby club in Denbigh

1982 Building of the original Clubhouse

1991 Purchase of the Club Grounds

2003 Extension of the Clubhouse to its current size

2007 Resurfacing the car park

2010 Construction of stand and footpath access

2013 Installation of roof solar panels – the first rugby club in Wales to do so

2016 Installation of pitch side shelters (dug-outs)

2022 Upgrading of the Club’s training pitch

2023 Building the dry stone wall at the entrance of the Club, accompanied by the stylish gates

2023 Building of the fitness gymnasium

2025 Installation of even more solar panels

2026  Establishing a garden area in the Club’s grounds in which a range of vegetables are grown.

2026 The Club becomes incorporated.

Integral to the philosophy of the Club has been the mantra ‘The Heart of the Community’. We, as a Club, have always aimed to be more than somewhere just to play rugby; we continually strive to involve ourselves as much as possible within the locality. Historically, we have hosted a variety of events and meetings at the Club.

Initially, many of the events were major fund raising activities for the Club. These included organising and managing a whole series of events including the Denbigh Carnival, the Denbigh Half Marathon, Charity Runs, Trotting Races, Sheep Dog Trials, Caledonian Markets, opening a Charity Shop for a week, Fireworks and Bonfire events, running the bar at the Denbigh Flower Show – the list goes on.

In more recent times, the Club has continued to be active off the field with such events as Business Breakfasts, accepting regular bookings from local organisations, concerts, parties, past players day, volunteers’ evenings, family days, members day, Welsh learners days etc. We have also been heavily involved at events such as the National and Urdd Eisteddfod, the Denbigh Show, Denbigh Carnival, Denbigh Beer Festival, Denbigh and Flint Show and Denbigh Mid-Summer Festival.  On a number of match days, crèches and soft play areas have been organised to ease the pressure on parents and players.

In addition to numerous birthday parties, wedding anniversaries, wakes and celebrations, the Club has also been a wedding venue. During the dark days of the Covid Pandemic, the Clubhouse was utilised as a Covid Assessment Centre.

The Club’s involvement in the Community was recently recognised by its invite and appearance on a streaming platform of the Pride of Britain programme 2026.

From an administrative and management perspective, the Club has recently been recognised in numerous ways including:

  • Receiving a Grade 5 (highest possible rating) in the Food Health and Hygiene assessment,
  • Being given  a highly positive assessment on the suitability of our facilities for individuals with disabilities and, most recently,
  • Gaining the Platinum Award (the highest award possible) by the WRU for our off the field management and governance

 From turning out one team in the early days, the Club has turned out over 15 different age group teams and has played against European Cup finalists. The Club owns its own fields, an outstanding car park, its Clubhouse and fitness gym, and plays its matches on excellently prepared fields and under top of the range floodlights, facilities of which any Club in North Wales would be proud.

Ymlaen / Onward and upward Clwb Rygbi Dinbych!