
Yn ddiweddar, cyflwynodd Undeb Rygbi Cymru system ariannu newydd ar gyfer ei Glybiau a oedd yn seiliedig ar reolaeth y Clwb ‘oddi ar y cae’. Roedd hyn yn cynnwys agweddau fel strwythurau rheoli, gofynion cyfreithiol a dogfennaeth, protocolau diwrnod gêm, cynllunio ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol gan gynnwys gwneud y Clwb yn fwy cynhwysol, a hefyd sut mae’r Clwb yn hunan asesu.
Yn seiliedig ar yr uchod, dyrannwyd sgôr benodol i bob Clwb o un o’r canlynol: Safonol, Efydd, Arian, Aur a Phlatinwm.
Gyda balchder a phleser mawr, rwy’n ysgrifennu i’ch hysbysu bod Clwb Rygbi Dinbych wedi’i raddio’n PLATINWM.
Diolch a llongyfarchiadau mawr i bob unigolyn sydd wedi bod yn rhan o’r broses hon ac am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i’n Clwb.
Recently, the WRU introduced a new funding system for its Clubs which was based on the ‘off the field’ management of the Club. This included such aspects as management structures, legal requirements and documentation, match day protocols, planning for future developments including making the Club more inclusive, and also how the Club self assesses.
Based on the above, each Club was then allocated a particular rating from one of the following: Standard, Bronze, Silver, Gold and Platinum.
It is with much pride and pleasure that I write to inform you that Clwb Rygbi Dinbych has been graded as PLATINUM.
Many thanks and congratulations to each and every individual who has been involved in this process and for their hard work and commitment to our Club.
