Category: NEWYDDION | NEWS:

Diolch o Galon: Celebrating Two True Servants of Clwb Rygbi Dinbych

Heddiw, rydym yn ffarwelio â dau o hoelion wyth Clwb Rygbi Dinbych, wrth iddynt gamu i lawr o’u rolau swyddogol yn y clwb.

Walter Roberts

25 mlynedd o wasanaeth i’r clwb.

Dros chwarter canrif, mae Walter wedi gwneud tipyn bach o bopeth – o gefnogi ein timau ieuenctid a rhedeg y lein, i gadw’r cyfrifon fel Trysorydd, sicrhau grantiau hanfodol i’r clwb, a gofalu bod ein caeau yn edrych ar eu gorau fel Cadeirydd y Caeau.

Mae’n deg dweud na fyddai’r clwb yr hyn ydyw heddiw heb yr holl waith caled, yr oriau di-ri a’r sgiliau mae Walter wedi’u rhoi i’r clwb dros y blynyddoedd.

Tom Williams

Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae Tom wedi bod yno i wneud yn siŵr bod popeth yn rhedeg yn esmwyth – o redeg y bar a’r clwb, i achub y dydd pan fydd problemau technoleg yn codi, a helpu trefnu’r tocynnau rhyngwladol.

Mae Tom wedi bod yn aelod gwerthfawr i’r clwb, ac mae ei waith caled a’i barodrwydd i helpu wedi bod yn amhrisiadwy.

Ni fyddai clwb fel Clwb Rygbi Dinbych yn gallu bodoli heb wirfoddolwyr fel Walter a Tom.

Mae eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u hangerdd dros y clwb, dros gyfanswm o 40 mlynedd, wedi chwarae rhan enfawr yn siapio’r clwb sydd gennym heddiw.

Er eu bod yn camu i lawr o’u rolau swyddogol, rydyn ni’n siŵr na fydd hyn yn golygu ffarwel – byddwn ni’n dal i’w gweld o gwmpas y clwb!

Felly, ymunwch â ni i godi gwydraid i Walter a Tom ac i ddweud…DIOLCH O GALON am bopeth!


We are bidding a heartfelt farewell to two stalwarts of Clwb Rygbi Dinbych who are stepping down from their official roles.

Walter Roberts

A quarter of a century of dedicated service.

From supporting our youth teams and running the line, to balancing the books as Treasurer, securing vital funding through grant applications, and helping to ensure our pitches are in tip top shape as Chair of Grounds. It’s fair to say Clwb Rygbi Dinbych wouldn’t be the club it is today without Walter’s hard work, hours of commitment, and skills set.

Tom Williams

15 years of keeping the wheels turning behind the scenes!

Whether it’s managing the bar and clubhouse, saving the day whenever IT issues crop up, or helping deal with the task of sorting international tickets, Tom has been an invaluable asset to the club for a decade and a half.

Clubs like ours simply cannot survive without people like Walter and Tom. Their dedication, hard work, and passion behind the scenes over the combined 40 years have shaped Clwb Rygbi Dinbych into what it is today.

While they may be stepping down from their formal roles, we know they won’t be strangers. Please join us in raising a glass to both Walter and Tom to say a massive Diolch o galon for everything!


GWOBR BLATINIWM I CRD | PLATINUM AWARD FOR CRD

Diolch yn fawr i Ellie George, Swyddog Datblygu Busnes Clybiau Undeb Rygbi Cymru, am alw heibio Clwb Rygbi Dinbych i gyflwyno Gwobr Blatinwm y Clwb.

Roedd Llywydd y Clwb, Tegid Phillips, yn falch iawn o dderbyn y wobr ar ran y Clwb.

Yn ddiweddar, cyflwynodd yr WRU system ariannu newydd ar gyfer clybiau, yn seiliedig ar sut mae’r Clwb yn cael ei reoli a’i lywodraethu “oddi ar y cae”.

Rydym yn hynod falch bod Clwb Rygbi Dinbych wedi ennill y radd uchaf bosibl, sef PLATINWM.

Mae’r cyflawniad hwn yn dyst i ymroddiad, gwaith caled ac ymrwymiad cymaint o unigolion ledled y Clwb. Diolch yn fawr a llongyfarchiadau i bawb sydd wedi chwarae rhan yn y broses hon.


Diolch to Ellie George, Club Business Development Officer at The Welsh Rugby Union, for calling by Clwb Rygbi Dinbych to present the Club with its Platinum Award.

Our Club President, Tegid Phillips, was delighted to receive the award on behalf of the Club.

The WRU recently introduced a new funding system for its clubs, based on the strength of their “off the field” management and governance.

We are incredibly proud that Clwb Rygbi Dinbych has achieved the highest grading of PLATINUM.

This achievement is a testament to the dedication, hard work and commitment of so many people throughout the Club. Thank you and congratulations to each and every individual who has played a part in this process.


Clwb Rygbi Dinbych nominated for a Pride of Britain Hometown Heroes Award.

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod Clwb Rygbi Dinbych wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr ‘Pride of Britain’ fel un o ‘Hometown Heroes’ (Arwyr y Dref) Amber Davies.

Ychydig fisoedd yn ôl, daeth camerâu i’r clwb i ffilmio ein stori, ac rydym wedi cadw’r cyfan yn gyfrinachol ers hynny!

Rydym mor ddiolchgar i bawb sydd wedi chwarae rhan wrth wneud Clwb Rygbi Dinbych yr hyn ydyw heddiw.

Mae cael ein henwebu yn anrhydedd enfawr ac yn dystiolaeth wirioneddol o’r hyn y mae’r clwb hwn yn ei gynrychioli. O’n gwirfoddolwyr gwych sy’n rhoi o’u hamser wythnos ar ôl wythnos, i’n chwaraewyr, aelodau, noddwyr a’r gymuned ehangach sy’n parhau i’n cefnogi – mae’r cydnabyddiaeth hon yn perthyn i chi i gyd.

Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth yn fuan am sut y gallwch bleidleisio. Yn y cyfamser, gallwch wylio ein cyfweliad llawn yma:


We’re incredibly proud to share that Clwb Rygbi Dinbych has been nominated for a Pride of Britain award as one of Amber Davies’ Hometown Heroes.

A few months ago, cameras came down to the club to film our story, and we’ve been keeping it under wraps ever since!

To be nominated is an incredible honour and a real testament to everything this club stands for. From our amazing volunteers who give up their time week in, week out, to our players, members, sponsors and the wider community who continue to support us, this recognition belongs to all of you.

We’re so grateful to everyone who has played a part in making Clwb Rygbi Dinbych what it is today.

We’ll be sharing more information soon on how you can vote. In the meantime, you can watch our full interview here:


Clwb Rygbi Dinbych wedi’i achredu – PLATINWM | Clwb Rygbi Dinbych is a PLATINUM Accredited Club  

Yn ddiweddar, cyflwynodd Undeb Rygbi Cymru system ariannu newydd ar gyfer ei Glybiau a oedd yn seiliedig ar reolaeth y Clwb ‘oddi ar y cae’. Roedd hyn yn cynnwys agweddau fel strwythurau rheoli, gofynion cyfreithiol a dogfennaeth, protocolau diwrnod gêm, cynllunio ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol gan gynnwys gwneud y Clwb yn fwy cynhwysol, a hefyd sut mae’r Clwb yn hunan asesu.

Yn seiliedig ar yr uchod, dyrannwyd sgôr benodol i bob Clwb o un o’r canlynol: Safonol, Efydd, Arian, Aur a Phlatinwm.

Gyda balchder a phleser mawr, rwy’n ysgrifennu i’ch hysbysu bod Clwb Rygbi Dinbych wedi’i raddio’n PLATINWM.

Diolch a llongyfarchiadau mawr i bob unigolyn sydd wedi bod yn rhan o’r broses hon ac am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i’n Clwb.


Recently, the WRU introduced a new funding system for its Clubs which was based on the ‘off the field’ management of the Club. This included such aspects as management structures, legal requirements and documentation, match day protocols, planning for future developments including making the Club more inclusive, and also how the Club self assesses.

Based on the above, each Club was then allocated a particular rating from one of the following: Standard, Bronze, Silver, Gold and Platinum.

It is with much pride and pleasure that I write to inform you that Clwb Rygbi Dinbych has been graded as PLATINUM.

Many thanks and congratulations to each and every individual who has been involved in this process and for their hard work and commitment to our Club.